Denbighshire School Meals

Cwestiynau Cyffredin

Yn Sir Ddinbych ymfalchïwn yn y gwasanaeth arlwyo a ddarparwn. Rydym yn ymwybodol fod bwyta’n iach, ac yn wir, brydau ysgol, yn rhan bwysig o ddiwrnod ysgol pob plentyn ac rydym bob amser yn fodlon ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

Paham Pryd Ysgol ac nid cinio pecyn?
 Mae astudiaethau wedi dangos bod disgyblion yn gallu canolbwyntio ar eu hastudiaethau’n well ar ôl pryd poeth, maethol gytbwys amser cinio.

O ble gewch chi’r bwyd ? 
Rydym wedi ymrwymo i brynu gan gyflenwyr lleol pa bryd bynnag y mae’n bosibl, er enghraifft rydym yn defnyddio pobyddion lleol ar gyfer ein bara a siopau llaeth lleol ar gyfer llaeth mewn ceginau Ysgol. O Gymru y daw ein Cig Eidion a’n Cig Oen ac rydym bob amser yn ymorol am weithio gyda chyflenwyr lleol pa bryd bynnag y gallwn.

Pwy sy’n creu’r bwydlenni? 
Mae’n Tîm Arlwyo yn dyfeisio’r bwydlenni ar ôl profi ryseitiau a chynhwysion mewn Ysgolion ar draws y Sir a chael adborth gan ddisgyblion. Yna caiff y bwydlenni eu dadansoddi gan ein dietegydd i sicrhau eu bod yn cwrdd â chanllawiau maethol llym Llywodraeth Cymru – Blas am Oes.

A gaiff fy mhlentyn aros am ginio ysgol ar ddiwrnodau unigol?
 Mae Arlwyo Sir Ddinbych yn deall bod gan bob teulu anghenion gwahanol felly rydym yn caniatáu ichi ddewis a dethol pryd mae’ch plentyn yn cael cinio ysgol.
Os nad yw’ch plentyn wedi rhoi cynnig ar ein gwasanaeth ers tro mae’r opsiwn hwn yn ffordd ragorol o gyflwyno eich plentyn i brydau ysgol. Mae pob pryd a ddarparwn yn faethol gytbwys ac, yn fwy pwysig yn seigiau y mae plant wrth eu bodd yn eu bwyta.

MENU