Gwasanaeth arlwyo sy’n sefyll allan.
Mae gwasanaeth prydau ysgol Sir Ddinbych wedi cael gwybod bod beirniaid annibynnol yn y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus wedi rhoi’r arlwywyr ar y rhestr fer yn y categori Gwasanaeth Arlwyo Addysg sy’n Perfformio orau yn y DU !!! – cynhelir y rownd derfynol ym mis Rhagfyr..
Mae bod ar y rhestr fer yn gyflawniad ynddo’i hun a hoffai’r tîm rheoli ddiolch a llongyfarch yr holl staff arlwyo a staff cymorth mewn ysgolion am y rhan y maent wedi’i chwarae yn y llwyddiant hwn.
Croesi bysedd !!!