Y wybodaeth ddiweddaraf am brisiau prydau ysgol
Mae Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion Sir Ddinbych wedi wynebu cynnydd parhaus ym mhrisiau’r holl fwyd a gaffaelir yn fasnachol, trwy’r farchnad fwyd ddomestig ac ar draws yr holl gadwyni cyflenwi.
Oherwydd y costau cynyddol hyn rydym ni wedi penderfynu codi prisiau prydau ysgol ar 1 Ebrill 2023 fel a ganlyn:
Ysgolion Cynradd £2.50
Ysgolion Uwchradd £2.65
Er gwaetha’r cynnydd hwn mae’r prisiau yn dal yn eithaf isel o’u cymharu ag awdurdodau lleol eraill, ac mae’r gwasanaeth yn hyderus ei fod yn darparu gwerth am arian o ran ansawdd y bwyd a ddarperir i ddisgyblion yn ein hysgolion.